Deuteronomy 23

Gwahardd o gynulleidfa pobl yr Arglwydd

1Dydy dyn sydd â'i geilliau wedi eu niweidio neu ei bidyn wedi ei dorri i ffwrdd ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr Arglwydd.
2Dydy dyn gafodd ei eni tu allan i briodas ddilys ddim yn cael perthyn i gynulleidfa pobl yr Arglwydd. (Na disgynyddion y person hwnnw chwaith, am byth.
23:2,3 Hebraeg, “am ddeg cenhedlaeth wedyn”
)
3Dydy pobl Ammon a Moab ddim i gael perthyn i gynulleidfa pobl yr Arglwydd. (Na'u disgynyddion nhw chwaith, am byth.)

4Pan ddaethoch chi allan o'r Aifft roedden nhw wedi gwrthod rhoi dŵr a bwyd i chi. A hefyd dyma nhw'n talu Balaam fab Beor o Pethor yn Mesopotamia
23:4 Hebraeg,  Aram-naharaim
i'ch melltithio chi.
5Ond dyma'r Arglwydd eich Duw yn gwrthod gwrando arno, ac yn troi'r felltith yn fendith! Mae'r Arglwydd eich Duw yn eich caru chi. 6Felly peidiwch byth gwneud unrhyw beth i helpu Ammon a Moab i lwyddo a ffynnu.

7“Ond mae pobl Edom yn perthyn i chi, felly rhaid i chi beidio eu ffieiddio nhw. A peidiwch ffieiddio pobl yr Aifft, gan eich bod wedi byw fel mewnfudwr yn eu gwlad nhw. 8Gall plant eu plant berthyn i gynulleidfa pobl yr Arglwydd.

Cadw'r gwersyll milwrol yn lân

9Pan fyddwch chi'n mynd allan i ymladd yn erbyn eich gelynion, cadwch draw oddi wrth unrhyw beth sydd ddim yn lân.

10Er enghraifft, os ydy dyn yn gollwng ei had yn ei gwsg, mae'n aflan, a rhaid iddo adael y gwersyll, ac aros allan drwy'r dydd. 11Yna gyda'r nos rhaid iddo olchi ei hun gyda dŵr. A bydd yn gallu mynd yn ôl i'r gwersyll ar ôl i'r haul fachlud.

12Rhaid trefnu lle tu allan i'r gwersyll i'r dynion fynd i'r tŷ bach. 13Rhaid i ti fynd â rhaw gyda ti i wneud twll, a gorchuddio dy garthion gyda pridd.

14Mae'r gwersyll i'w gadw'n lân. Mae'r Arglwydd eich Duw yn cerdded o gwmpas y gwersyll; mae e gyda chi i'ch achub a'ch galluogi chi i ennill y frwydr. Does gynnoch chi ddim eisiau iddo fe weld rhywbeth afiach, a troi cefn arnoch chi.

Cyfreithiau eraill

15Os ydy caethwas o wlad arall wedi dianc i wlad Israel, peidiwch mynd ag e yn ôl i'w feistr. 16Mae i gael byw ble bynnag mae e eisiau. Caiff ddewis unrhyw un o'ch pentrefi i fynd i fyw yno. Peidiwch â'i gam-drin a chymryd mantais ohono.
17Ddylai merched a dynion ifanc Israel byth wasanaethu fel puteiniaid teml.
23:17 Wrth addoli duwiau ffrwythlondeb yn y temlau Canaaneaidd, roedd cael rhyw gyda putain teml i fod i sicrhau cynhaeaf da ac y byddai eu hanifeiliaid yn cenhedlu rhai bach.

18Paid byth dod â tâl putain neu gyflog puteiniwr i deml yr Arglwydd dy Dduw er mwyn cadw addewid. Mae'r ddau beth yn ffiaidd gan yr Arglwydd.
19Peidiwch codi llog ar fenthyciad i gyd-Israeliaid – llog ar arian, ar fwyd, neu unrhyw beth arall sydd wedi ei fenthyg. 20Cewch godi llog ar fenthyciad i bobl sydd ddim yn Israeliaid, ond peidiwch gwneud hynny wrth fenthyg i'ch pobl eich hunain. Bydd yr Arglwydd eich Duw yn bendithio popeth wnewch chi, yn y wlad dych chi ar fin ei chymryd, os byddwch chi'n ufudd.
21Pan fyddwch chi'n gwneud adduned i'r Arglwydd eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni. Neu byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol ganddo. 22Mae'n well peidio gwneud adduned yn y lle cyntaf. 23Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw eich adduned, beth bynnag oedd yr adduned honno. Er enghraifft, os gwnaethoch chi addo rhoi rhywbeth iddo yn offrwm gwirfoddol.
24Os ydych chi'n mynd trwy winllan rhywun arall, cewch fwyta faint fynnoch chi o rawnwin, ond peidiwch mynd â dim i ffwrdd mewn basged.
25Os ydych chi'n mynd trwy gae ŷd rhywun, cewch bigo'r tywysennau gyda'ch llaw, ond peidiwch defnyddio cryman i gymryd peth o'r cnwd.
Copyright information for CYM